Isaiah 45

Cyrus yn ufuddhau i'r Arglwydd

1Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud wrth Cyrus, yr un mae wedi ei eneinio; yr un mae wedi gafael yn ei law, iddo sathru gwledydd o'i flaen a diarfogi brenhinoedd. Yr un mae wedi agor drysau iddo heb adael unrhyw giât ar gau:

2“Dw i'n mynd o dy flaen di
i fwrw waliau dinasoedd i lawr,
dryllio drysau pres
a thorri'r barrau haearn.
3Dw i'n mynd i roi i ti drysorau sydd yn y tywyllwch,
stôr o gyfoeth wedi ei guddio o'r golwg –
er mwyn i ti wybod mai fi, yr Arglwydd,
Duw Israel, sydd wedi dy alw di wrth dy enw.
4Dw i wedi dy alw di wrth dy enw
er mwyn fy ngwas Jacob,
ac er mwyn Israel, yr un dw i wedi ei ddewis.
Dw i'n mynd i roi teitl i ti,
er nad wyt ti'n fy nabod.
5Fi ydy'r Arglwydd a does dim un arall;
does dim duw ar wahân i mi.
Dw i'n mynd i dy arfogi di,
er nad wyt ti'n fy nabod.
6Dw i eisiau i bawb, o'r dwyrain i'r gorllewin,
wybod fod neb arall ond fi.
Fi ydy'r Arglwydd a does dim un arall.
7Fi sy'n rhoi golau, ac yn creu twyllwch,
yn dod â heddwch ac yn creu trwbwl –
Fi, yr Arglwydd, sy'n gwneud y cwbl.
8Arllwys law i lawr, o awyr!
Glawiwch gyfiawnder, gymylau!
Agor, ddaear! er mwyn i achubiaeth dyfu,
ac i degwch flaguro:
Fi, yr Arglwydd, sydd wedi ei wneud.”

Rhybudd yr Arglwydd

9Gwae'r sawl sy'n dadlau gyda'i Wneuthurwr,
ac yntau'n ddim byd ond darn o lestr wedi torri ar lawr!
Ydy'r clai yn dweud wrth y crochenydd,
“Beth yn y byd wyt ti'n wneud?”
neu, “Does dim dolen ar dy waith”?
10Gwae'r un sy'n dweud wrth dad,
“Beth wyt ti'n ei genhedlu?”
neu wrth fam, “Beth wyt ti'n ei eni?”

11Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel wnaeth ei siapio:

“Dych chi'n fy holi am ddyfodol fy mhlant?
Dych chi am ddweud wrtho i beth i'w wneud?
12Fi wnaeth y ddaear,
a chreu y ddynoliaeth arni.
Fi fy hun wnaeth ledu'r awyr,
a rhoi trefn ar y sêr.
13A fi sydd wedi codi Cyrus i achub
ac wedi gwneud y ffordd o'i flaen yn rhwydd.
Bydd e'n ailadeiladu fy ninas i,
ac yn gollwng fy mhobl gafodd eu caethgludo yn rhydd
heb unrhyw dâl na gwobr,”

—meddai'r Arglwydd holl-bwerus.

14Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Bydd cyfoeth yr Aifft ac enillion Affrica
45:14 Affrica Hebraeg,  Cwsh. Yr ardal i'r de o wlad yr Aifft, sef Gogledd Swdan heddiw.

a'r Sabeaid tal,
yn dod yn eiddo i ti.
Byddan nhw'n dy ddilyn di mewn cadwyni,
yn plygu o dy flaen di,
ac yn pledio:
‘Dim ond gyda ti mae Duw,
a does dim duw arall o gwbl!’”
15Ti'n sicr yn Dduw sy'n cuddio ei hun,
O Dduw Israel, yr un sy'n achub!
16Bydd y rhai sy'n cerfio eilunod
yn teimlo cywilydd ac embaras –
byddan nhw i gyd yn sleifio i ffwrdd mewn cywilydd.
17Y mae Israel yn saff gyda'r Arglwydd
ac yn cael ei hachub am byth!
Fydd hi ddim yn profi cywilydd nac embaras
byth bythoedd!

18Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud, sef Crëwr y nefoedd! Yr unig Dduw! Yr un wnaeth y ddaear, ei siapio a'i gosod yn ei lle – nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni:

“Fi ydy'r Arglwydd, does dim un arall.
19Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol,
mewn rhyw le tywyll.
Wnes i ddim dweud wrth blant Jacob,
‘Edrychwch amdana i i ddim pwrpas’ –
Dw i, yr Arglwydd, yn dweud beth sy'n iawn,
ac yn dweud y gwir.
20Dewch yma at eich gilydd.
Dewch ata i gyda'ch gilydd,
chi ffoaduriaid y cenhedloedd!
Dydy'r rhai sy'n cario delwau pren yn gwybod dim,
na'r rhai sy'n gweddïo ar dduwiau
sydd ddim yn gallu achub!
21Cyflwynwch eich tystiolaeth –
gadewch iddyn nhw drafod gyda'i gilydd!
Pwy ddwedodd am hyn ymlaen llaw?
Pwy soniodd am y peth o'r dechrau?
Onid fi, yr Arglwydd?
Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi!
Fi ydy'r Duw cyfiawn sy'n achub –
does dim un arall!
22Dewch o ben draw'r byd;
trowch ata i i gael eich achub!
Achos fi ydy Duw, a does dim un arall.
23Dw i wedi mynd ar fy llw,
dw i'n dweud y gwir,
fydda i'n cymryd dim yn ôl:
‘Bydd pob glin yn plygu i mi,
a phob tafod yn tyngu i mi!
24Byddan nhw'n dweud: “Ydy, mae'r Arglwydd
yn Dduw cyfiawn a chryf!”’”
Bydd y rhai gododd yn ei erbyn
yn troi ato mewn cywilydd.
25Bydd disgynyddion Israel
yn cael eu hachub gan yr Arglwydd
ac yn canu mawl iddo.
Copyright information for CYM